Susan Elan Jones
Mae pobol sy’n dioddef o ganser yng Nghymru yn gorfod disgwyl misoedd am asesiadau a budd-dal ers i Lywodraeth Prydain breifateiddio’r gwaith.

Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw fe fydd Susan Elan Jones, AS De Clwyd, yn galw ar i Lywodraeth San Steffan rhoi terfyn ar eu cytundeb gyda chwmni Capita neu roi trefn ar y llanast.

Ers mis Hydref 2013, Capita sy’n gyfrifol am asesu pobol anabl a phobol sy’n dioddef o gyflyrau sy’n gwanychu – fel canser, er mwyn pennu a ydyn nhw’n gymwys am y Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) sydd wedi dod yn lle’r Lwfans Byw i’r Anabl.

‘Methiant’

“Mae llawer o enghreifftiau gan Aelodau Seneddol o Gymru am bobol wedi cael canser ac yn aros am chwe mis i gael eu talu,” meddai Susan Elan Jones wrth Golwg.

“Rydyn yn sôn am fethiant a’r trethdalwr sy’n talu amdano – mae’r cyfan yn cael sybsidi anferthol – miliynau o bunnoedd. Mae’n rhaid i rywun yn rhywle gymryd cyfrifoldeb am y ddêl hon rhwng y Llywodraeth a chwmni preifat.”

Roedd Susan Elan Jones yn un o grŵp o Aelodau Seneddol Llafur Cymru aeth i gwrdd ag un o benaethiaid Capita. Yn wreiddiol, roedd y cwmni wedi meddwl y byddai asesiadau ar gyfer hawlio’r budd-dal newydd yn “cymryd rhyw awr”, meddai.

Roedd y cwmni hefyd wedi meddwl y byddai’n rhaid asesu 70% o bobol wyneb yn wyneb ond bellach roedd y ffigwr wedi codi i 99% meddai Susan Elan Jones.

Dal i aros

Cafodd un o etholwyr Susan Elan Jones ddiagnosis o ganser fis Awst y llynedd ac yn sgil dwy lawdriniaeth a chemotherapi aeth i weld ei haelod seneddol ym mis Ionawr eleni.

“Roedd hi wedi ceisio am y PIP yn fuan ar ôl y diagnosis gan ei bod yn gwybod na fyddai’n gallu gweithio ac y byddai angen help ariannol drwy gyfnod anodd iawn,” meddai’r gwleidydd.

“Mae’n dal i aros a dyw hi ddim yn derbyn unrhyw gefnogaeth ariannol – mae’n dal i fynd drwy gemotherapi.

“Mae pecyn gwybodaeth Capita maen nhw’n ei roi i ymgeiswyr yn dweud y dylai asesiadau gael eu gwneud o fewn rhyw 28 diwrnod. Dw i’n meddwl fod fy etholwr wedi aros yn ddigon hir.”

Stori: Siân Williams