Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn datgan ei gefnogaeth i ddatganoli  pwerau ar drafnidiaeth, S4C, tâl athrawon, carthffosiaeth a’r heddlu i Gymru, mewn araith yng Nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw yng Nghasnewydd.

Yn dilyn yr argymhellion Comisiwn Silk, sy’n edrych ar sut y dylai pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu hadolygu, mae disgwyl i Nick Clegg gyhoeddi mai ef fydd yr arweinydd cyntaf i gynnwys yr argymhellion yn ei faniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredin yn 2015.

Mae disgwyl i Dirprwy Brif Weinidog Prydain ddweud ddweud: “Mae’r Glymblaid wedi cychwyn gweithio ar weithredu argymhellion rhan gyntaf adroddiad Silk, a throsglwyddo trethi a phwerau benthyg i Gymru.

“Ond rwyf i eisiau mynd yn bellach. Rwyf eisiau i’r Democratiaid Rhyddfrydol arwain y ffordd wrth weithredu ail ran adroddiad Silk, a throsglwyddo pwerau i nifer o ardaloedd.”

Mae disgwyl iddo hefyd gyfeirio at refferendwm yr Alban ar 18 Medi gan ddweud:

“Gyda phob llygad ar refferendwm Yr Alban, rhaid cofio bod y refferendwm yn cynrychioli cyfnod pwysig i Gymru hefyd.

“Pam ddim datganoli pwerau pellach i Gymru hefyd?

“Yn wahanol i bleidiau eraill, bydd y maniffesto terfynol yn cael ei gymeradwy gan ein haelodau, ac rydym am roi i chi y pwerau sydd eu hangen i fwrw mlaen a phethau.”