Fe fydd pennaeth ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn dychwelyd i’w waith ddydd Llun nesa’.

Fe gafodd Eifion Jones, prifathro Ysgol Brynrefail yn Llanrug ger Caernarfon, ei wahardd o’i waith yn Rhagfyr 2013, tra’r oedd Cyngor Gwynedd yn cynnal dau ymchwiliad.

Ddiwedd Mawrth, fe gyhoeddodd yr awdurdod ddatganiad yn cadarnhau bod y ddau “ymchwiliad i gŵyn yn erbyn ymddygiad aelod o staff Ysgol Brynrefail wedi ei gwblhau ac nad oes rheswm i’r ataliad o’r gwaith barhau”.

Ond yr un pryd, fe gyhoeddodd cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, y Canon Robert Townsend, y byddai e’n ymddiswyddo pe bai’r prifathro yn dychwelyd i’w waith.

Fe ddaeth cadarnhad bellach ei fod wedi ymddiswyddo.

Diffyg hyder

Roedd llywodraethwyr wedi pleidleisio tros gynnig o ddiffyg hyder yn y prifathro.

Ond eto, mae deiseb yn cefnogi Eifion Jones ar wefan gymdeithasol Facebook, wedi denu dros 1,000 o gefnogwyr.

Fe fydd corff llywodraethol Ysgol Brynrefail yn cyfarfod yr wythnos nesa’ er mwyn penodi cadeirydd newydd.