Teyrngedau i'r glowyr yn dilyn y trychineb yn 2011
Mae llys wedi clywed bod glowyr mewn pwll lle cafodd pedwar o weithwyr eu lladd wedi clywed ffrwydrad “fel injan jet” cyn i ddŵr lifo i mewn.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield yn un o’r bobol a lwyddodd i ddianc o’r pwll yn 2011.
Bu farw Charles Breslin (62), Philip Hill (44), Garry Jenkins (39) a David Powell (50) a chafwyd hyd i’w cyrff yn ystod archwiliad o’r pwll yn y dyddiau’n dilyn y trychineb.
Clywodd y llys fod Malcolm Fyfield wedi dweud wrth barafeddygon nad oedd gobaith dod o hyd iddyn nhw’n fyw.
Mae’r rheolwr wedi pledio’n ddieuog i bedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol, ac mae’r cwmni MNS Mining wedi gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
Yr erlyniad
Mae’r erlyniad yn honni bod y cwmni wedi methu sicrhau bod y gweithle’n ddiogel.
Clywodd y llys fod y gweithwyr yn defnyddio offer ffrwydrol i gloddio am lo yn y pwll sy’n 100 mlwydd oed.
Mae’r erlyniad hefyd yn honni bod diffyg lle i weithio o dan ddaear a bod y nenfwd 77cm yn unig oddi ar y llawr.
Clywodd y llys fod y gweithwyr yn cropian o dan ddaear wrth iddyn nhw weithio.
Dywedodd un o’r gweithwyr, David Wyatt wrth ei gydweithwyr ar Fedi 15, 2011 ei fod yn bwriadu defnyddio offer ffrwydrol i gloddio.
Wrth glywed y ffrwydrad, rhedodd rhai o’r gweithwyr i ffwrdd, cyn i’r dŵr dasgu i mewn.
Mab David Powell, a oedd hefyd yn gweithio yn y pwll, oedd wedi ffonio 999 yn dilyn y ffrwydrad.
Clywodd y llys fod Malcolm Fyfield wedi ceisio achub bywyd David Powell mewn rhan o’r pwll oedd yn 10cm o uchder yn unig.
Wedyn, daeth o hyd i Philip Hill tua phum metr i ffwrdd, ond roedd awgrym fod ei ysgyfaint yn llawn dŵr.
Archwiliad post-mortem
Dangosodd profion post-mortem fod ysgyfaint y pedwar glöwr yn llawn dŵr.
Mae disgwyl i’r rheithgor weld lluniau a mapiau o’r pwll yn ystod yr achos.
Clywodd y llys fod Malcolm Fyfield yn rheolwr profiadol iawn a’i fod yn berchen ar nifer o weithfeydd glo yng nghymoedd Tawe a Nedd.
Bu’n gweithio fel rheolwr pwll y Gleision ers 10 wythnos pan ddigwyddodd y trychineb.
Mae’r achos yn parhau.