Cafwyd yr amserau aros am ambiwlansys gwaethaf ers 2011 ym mis Chwefror, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Dim ond 52.8% o alwadau brys a gafodd eu hateb o fewn y targed o wyth munud.

Dywed canllawiau Llywodraeth Cymru y dylai’r gwasanaeth ambiwlans ateb 65% o alwadau o fewn yr amser penodedig.

Dyma’r ffigurau gwaethaf ers i’r canllawiau hynny gael eu cyflwyno yn 2011.

‘Argyfwng’

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams fod y ffigurau’n “warth cenedlaethol”.

“Mae’n ymddangos bod ein gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng. Mae pobol yn haeddu gwell na hyn.

“Mae ymateb i hanner yn unig o alwadau o fewn yr amser targed o wyth munud lle mae bywydau mewn perygl yn bryder mawr.

“Gallai bywydau gael eu colli oherwydd amserau ymateb araf.

“Does neb yn amau sgiliau ac ymroddiad ein staff rheng flaen.

“Yr hyn sy’n cael ei amau yw gallu Llywodraeth Lafur Cymru i ddarparu gwasanaeth dibynadwy digonol y mae pobol Cymru’n ei haeddu.”

Newid targedau

Heddiw, mae llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y ffordd mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans ac unedau damweiniau ac achosion brys yn cael eu monitro a’u mesur yn newid yn sylweddol o fis Ebrill.

Fe gyhoeddodd  y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford  y cyntaf mewn cyfres o dargedau iechyd newydd, sy’n canolbwyntio ar y claf.

‘Ffigurau gwaethaf erioed’

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones: “Dyma’r ffigurau gwaethaf erioed ar gyfer amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans. Er gwaethaf honiadau’r gweinidog bod yna ‘sylfaen gadarn’ i’r gwasanaeth allu cwrdd â’r gofynion dros fisoedd y gaeaf, mae perfformiad mis Chwefror yn waeth na’r hyn mae wedi bod ers mis Rhagfyr 2011.

“Fe ddigwyddodd y perfformiad gwael er gwaethaf gostyngiad yn nifer y galwadau yn y misoedd blaenorol ac fe ddylai hynny fod yn bryder sylweddol i Lywodraeth Cymru.

“Fe ddylai Llywodraeth Cymru geisio mynd i’r afael a’r Gwasanaeth Ambiwlans yn hytrach na cheisio symud y pyst drwy newid y targedau.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Yn ystod mis Chwefror, gweithiodd timau ambiwlans mewn amodau tywydd eithafol i gyrraedd cleifion sâl ac a oedd wedi’u hanafu’n ddifrifol ledled Cymru.

“Yn ystod y mis Chwefror gwlypaf ar gof a chadw, pan gyrhaeddodd gwyntoedd 100 m.y.a. a thra bod nifer o ffyrdd a phontydd ar gau, roedd hi’n anniogel i barafeddygon ymateb i alwadau o fewn wyth munud tra’n gyrru cerbydau sy’n pwyso pum tunnell.

“Mae diogelwch cleifion, staff a’r cyhoedd yn hollbwysig mewn amodau eithafol. Dylen ni fod yn canmol staff y rheng flaen am eu hymrwymiad i gyflwyno gwasanaethau mewn amodau peryglus.”