Malcolm Fyfield
Mae achos llys rheolwr pwll glo’r Gleision, lle bu farw pedwar o lowyr, yn dechrau heddiw.
Malcolm Fyfield, 57, oedd rheolwr pwll y Gleision yng Nghwm Tawe pan lifodd galwyni o ddŵr i mewn i’r pwll ar 15 Medi 2011.
Bu farw Philip Hill, 44, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, yn y ddamwain.
Fe lwyddodd Fyfield, oedd yn y pwll ar y pryd, i ddianc ac fe dreuliodd wythnos yn yr uned gofal dwys yn yr ysbyty.
Cafodd ei gyhuddo’n ddiweddarach o bedwar achos o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod dybryd. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae MNS Mining Cyf, oedd yn berchen pwll y Gleision ar y pryd, hefyd wedi pledio’n ddieuog i bedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.