Pylu mae’r gobeithion o ddod o hyd i ragor o bobl yn fyw yn dilyn tirlithriad enfawr yn America ar ôl i dimau achub weithio drwy’r nos yn chwilio am ragor o gyrff.

Mae’r tirlithriad yn nhalaith Washington, a ddigwyddodd dros y penwythnos,  wedi lladd o leiaf wyth o bobl ac mae o leiaf 18 o bobl ar goll.

Mae’r tirlithriad, sy’n  filltir sgwâr o faint, hefyd wedi anafu sawl person ac wedi dinistrio tua 30 o gartrefi.

Credir bod y tirlithriad wedi cael ei achosi gan law trwm diweddar sydd wedi gwneud y tir yn ansefydlog.