Helen Mary Jones
Mae angen mynd i’r afael â’r stigma o brydau bwyd am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion yng Nghymru yn ôl adroddiad newydd.
Fe fydd Aelodau Cynulliad yn trafod yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc sy’n dweud byddai’n well gan bron i dri allan o bob deg disgybl fynd heb brydau bwyd am ddim yn hytrach na chael eu bychanu gan eu cyd-ddisgyblion.
Mae’r pwyllgor traws bleidiol yn credu bod angen i athrawon cael hyfforddiant priodol ar y mater er mwyn eu galluogi i adnabod ac ymyrryd yn gynnar pe bai problem.
Fe ddywedodd cadeirydd y pwyllgor, Helen Mary Jones, Aelod Cynulliad Llanelli, ei bod hi’n hapus bod Llywodraeth y Cynulliad wedi derbyn deg argymhelliad gan y pwyllgor o flaen y drafodaeth yn y Senedd heddiw.
“Mae tystiolaeth a dderbyniwyd yn yr ymchwiliad wedi dangos bod o hyd agweddau i bryderu amdano er gwaethaf bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud gwaith positif i gael gwared â thlodi plant,” meddai Helen Mary Jones.
“Mae’n rhaid i ni edrych ar sut mae’r system prydau bwyd yn cael ei gweithredu.
“Ry’n ni wedi clywed am fanteision system heb arian lle mae pob disgybl yn defnyddio’r un dull o dalu ac mae ein hadroddiad yn annog Llywodraeth y Cynulliad i ystyried system debyg.
“Mae’n rhaid i athrawon fod yn gwbl fedrus i allu cefnogi’r plant yma er mwyn iddynt gael y cyfleoedd gorau posib.”