Cyrnol Gaddafi
Mae Muammar Gaddafi wedi galw ar drigolion Libya yn nwyrain y wlad i ymladd yn ôl yn erbyn y gwrthryfelwyr sy’n ceisio’i ddisodli.
Fe ddaw geiriau Gaddafi wrth iddo annerch grŵp o ieuenctid yn nhref Zintan, sydd 75 milltir i’r dwyrain orllewin o Triopoli.
Roedd arweinydd Libya yn parhau i feio al Qaida o’r Aifft, Algeria, Afghanistan a Palesteina am y gwrthdaro sydd wedi bod yn y wlad ers 15 Chwefror.
Mae lluoedd Gaddafi wedi bod yn ymladd gyda gwrthryfelwyr yn nwyrain y wlad ac mewn ardaloedd yn agos i Tripoli sy’n parhau i fod o dan ei deyrnasiad a ddechreuodd yn 1969.
Mae dros 1,000 o bobl wedi marw ers dechrau’r ymladd ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfri’ bod tua 212,000 o bobl wedi ffoi’r wlad.
Fe fydd ymgynghorwyr Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn cyfarfod heddiw i amlinellu camau posib y gallai cael eu cymryd i roi pwysau ar Muammar Gaddafi i atal trais o fewn y wlad a rhoi’r gorau i’w deyrnasiad.
Mae Barack Obama yn wynebu prawf o’i bolisi ymyrraeth ddyngarol a ddisgrifiodd fel rhywbeth allweddol i atal trychinebau.
Fe fydd rhaid i’r Arlywydd wneud penderfyniad yn fuan dros ymyrryd neu beidio.