Leenne Wood - cryfhau ei hawdurdod
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi cael ei ddiswyddo o fod yn llefarydd Plaid Cymru ar Drafnidiaeth ac yn colli enwebiad Plaid Cymru i fod yn Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ar ôl i Dafydd Elis-Thomas – sy’n gyn arweinydd ei hun – ymosod yn gyhoeddus ar ei haraith hi yng nghynhadledd y Blaid dros y Sul.

Roedd wedi ei chyhuddo hi o “ymosodiad arwynebol” trwy honni bod y blaid gwrth-Ewrop UKIP yn mynd yn gros i fuddiannau Cymru.

Geiriau Leanne Wood

“Dros y penwythnos, ceisiodd Plaid Cymru amlygu’r peryglon sy’n wynebu Cymru gan UKIP. Rydym yn credu’n ddiffuant nad yw polisïau’r blaid er budd pobol ein cymunedau,” meddai Leanne Wood mewn datganiad.

“Penderfynodd Dafydd Elis-Thomas ladd ar y safbwynt hwn heb godi unrhyw bryderon ymlaen llaw.

“Mae pobol Cymru, ac aelodau Plaid Cymru yn disgwyl ac yn haeddu plaid genedlaethol sydd yn unedig wrth ymdrin â’r heriau sy’n wynebu ein gwlad; ar swyddi, yr economi, a bydd yn parhau i roi Cymru yn gyntaf.”

Penodi

Mae AC newydd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi ei benodi’n Llefarydd Trafnidiaeth i Blaid  Cymu ac Alun Ffred Jones fydd yn cael ei enwebu i gadeirio’r pwyllgor.

Fe fydd penderfyniad Leanne Wood yn cael ei weld yn ymgais i gryfhau ei awdurdod – nid dyma’r tro cynta’ i Dafydd Elis-Thomas fod yn feirniadol ohoni.

Roedd wedi sefyll yn ei herbyn am arweinyddiaeth y Blaid ar ôl ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones.