Fe wnaeth athrawon yng Nghymru golli dros 50,000 diwrnod o waith y llynedd, o ganlyniad i salwch yn ymwneud a phwysau gwaith.

Mae hyn yn ôl ymchwil gan Undeb Athrawon Cymru (NUT) sydd wedi darganfod fod 12 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi adrodd am gynnydd yn  nifer y dyddiau y bu athrawon yn sâl yn 2013.

Mae’r undeb yn galw am arolwg i’r mater, ac yn dweud fod angen buddsoddi mwy o arian mewn adnoddau i atal athrawon rhag cael eu heffeithio gan broblemau pwysau gwaith.

‘Ddim yn cymryd y broblem o ddifrif’

Fe ddangosodd ffigurau yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth fod athrawon wedi cael colli 5,088 o ddiwrnodau gwaith yng Nghastell-nedd Port Talbot, a 6,741 o ddiwrnodau gwaith yng Nghaerdydd.

Yn ôl NUT Cymru, mae’r pwysau yn ymwneud a llwyth gwaith yn ogystal â’r anghydfod ynglŷn â thâl a phensiynau:

“Mae’n amlwg nad ydym ni’n cymryd y broblem o bwysau gwaith ar athrawon o ddifrif. Mae’n effeithio athrawon yn bersonol ac yn broffesiynol ac yn aml, mae’n anodd iddyn nhw ddychwelyd i’w gwaith,” meddai Ysgrifennydd NUT Cymru, David Evans.

Mae’r ymchwil yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a ddangosodd fod ysgolion wedi gwario tua £54miliwn ar athrawon llanw yn 2011-12 – sy’n gynnydd o 7% ers 2008-9.

Dywed yr adroddiad fod disgyblion yn annhebygol o wneud gwelliant academaidd, gan nad yw’r gwaith sy’n cael ei osod yn ddigon heriol.

Polisïau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Nid yw hi’n fwriad gennym i orlwytho gwaith ar athrawon Cymru.

“Nid yw’r polisïau sydd gennym mewn lle yn canolbwyntio ar greu biwrocratiaeth nac yn cynyddu’r llwyth gwaith i athrawon.

“Mae gan gyrff llywodraethol, sy’n cyflogi’r athrawon, gyfrifoldeb i sicrhau fod iechyd a diogelwch eu gweithwyr yn flaenoriaeth.”