Nigel Evans
Mae cynghorydd o’r Blaid Geidwadol wedi dweud ei fod e wedi gweld yr Aelod Seneddol Nigel Evans yn rhoi ei law i lawr trowsus dyn arall mewn bar.
Dywedodd Mark Formosa wrth Lys y Goron Preston am yr hyn a welodd mewn bar yn ystod cynhadledd y Blaid Geidwadol.
Clywodd y llys y bu’n rhaid tynnu Nigel Evans oddi ar y dyn arall pan ddechreuodd ffrwgwd.
Yfed
Roedd Formosa wedi bod yn yfed mewn bar yng ngwesty’r Imperial yn Blackpool yn 2003.
Dywedodd wrth y llys ei fod e wedi gweld Nigel Evans yn mynd yn nes ac yn nes at y dyn cyn ymosod arno.
Roedd Nigel Evans yn siarad yn y gynhadledd y diwrnod ar ôl y digwyddiad honedig, ac fe gafodd ei annog gan eraill yn y bar i fynd i’r gwely.
Eisoes, mae’r llys wedi clywed fod Aelod Seneddol Ribble Valley wedi defnyddio’i ddylanwad gwleidyddol i ymosod ar saith dyn ifanc.
Mae Evans, sy’n 56 oed, yn gwadu’r cyhuddiadau.
‘Ffrwgwd’
Cafodd Mark Formosa ei gyhuddo gan gyfreithiwr Nigel Evans o ddweud celwydd yn y llys, ac fe ofynnodd iddo pam ei fod e wedi mynd at yr heddlu ar ôl i’r gwleidydd gael ei arestio.
Dywedodd ei fod e “ond yn gallu dweud beth welais i”.
Clywodd y llys fod yr Aelod Seneddol dros Orllewin Bournemouth, Conor Burns wedi gorfod tynnu’r ddau ddyn oddi ar ei gilydd yn dilyn y ffrwgwd.
Fe ddywedodd wrth y llys ei fod e’n gyfaill i Nigel Evans a’i fod yn gyndyn o roi tystiolaeth yn ei erbyn pan ofynnodd yr heddlu iddo fynd i’r llys y llynedd.
Dywedodd ei fod e wedi anghofio manylion am yr hyn a ddigwyddodd gan fod y digwyddiad honedig dros ddegawd yn ôl.
‘Ymddwyn yn amhriodol’
Clywodd y llys fod y dyn wedi dweud wrth Conor Burns fod Evans wedi ymddwyn ym amhriodol tuag ato.
Ers cael ei arestio, mae Nigel Evans wedi ymddiswyddo o fod yn Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin.