Mae dau floc o fflatiau yn Efrog Newydd wedi dymchwel yn dilyn ffrwydrad, gan ladd dau o bobl ac anafu o leiaf 17.

Yn ôl rhai trigolion roedd arogl nwy  yn dod o’r fflatiau yn East Harlem ger Park Avenue cyn y ffrwydrad tua 9yb (amser lleol) heddiw.

Mae’n ymddangos bod yr adeiladau pum llawr wedi dymchwel.

Mae’r gwasanaethau brys yn ceisio darganfod a oes unrhyw un arall yn gaeth o dan y rwbel. Cafodd 170 o ddiffoddwyr tan eu hanfon i’r safle.

Mae’r safle gyferbyn a chledrau trenau Metro North ac mae gwasanaethau wedi cael eu hatal i orsaf drenau Grand Central am y tro.