Carl Sargeant
Mae arweinwyr Cyngor Ynys Môn wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymyrryd mewn cynlluniau i ddatblygu pentref gwyliau a channoedd o gartrefi newydd ar yr ynys.
Fe wnaeth Cyngor Ynys Môn benderfynu caniatáu’r cynlluniau dadleuol i godi 800 o gabanau gwyliau a pharc gwledig ar safle Penrhos ger Caergybi mewn cyfarfod ym mis Tachwedd ar ôl ei wrthod fis yn gynharach.
Oherwydd maint a natur y cais, cyfeiriwyd y cynlluniau at Lywodraeth Cymru i’w ystyried gyda’r argymhelliad bod yr awdurdod cynllunio lleol yn awyddus i’w ganiatáu.
Dydd Gwener, cyhoeddodd y Gweinidog dros Dai ac Adfywio, Carl Sargeant AC, na fyddai yn galw’r cais i mewn i’w benderfynu gan weinidogion Cymru, gan ychwanegu y dylai Ynys Môn benderfynu ar y cais fel maen nhw’n ei ystyried sy’n addas.
Dywedodd Carl Sargeant ei fod o’r farn fod y cyngor wedi pwyso a mesur yr effeithiau amgylcheddol ac economaidd yn drylwyr cyn gwneud penderfyniad. Oherwydd hynny, doedd o ddim yn credu bod materion a godwyd gan y cais yn fwy nag o bwysigrwydd lleol.
Bydd yr awdurdod lleol nawr yn mynd ati i drafod y mater ymhellach gyda’r datblygwr, Land and Lakes.
‘Manteision economaidd’
Dywedodd deilydd portffolio Datblygu Economaidd Ynys Môn, y Cynghorydd Aled Morris Jones:
“Mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i greu economi ffyniannus a llewyrchus yma ar Ynys Môn a bydd y prosiect hwn yn dod â manteision economaidd tymor hir ar gyfer yr ynys gyfan.
“Mae’r cais ei hun yn cynnwys nifer o gytundebau gyda’r ymgeisydd sydd i gyd yn anelu at roi hwb i gyflogaeth leol a chadwyn gyflenwi busnes lleol.”
Ychwanegodd y deilydd portffolio Cynllunio, y Cynghorydd Arwel Roberts: “Mae’r cynlluniau hyn yn cynrychioli’r cais mwyaf i gael ei gyflwyno i Gyngor Sir Ynys Môn erioed.
“Rwyf yn falch gyda phenderfyniad y Gweinidog y dylai’r cynigion gael eu penderfynu gan yr awdurdod lleol ac rydym yn awr mewn sefyllfa i gymryd y camau nesaf a pharhau a’r trafodaethau gyda’r datblygwr.”