Andrew 'Tommo' Thomas
Mae amserlen newydd Radio Cymru wedi dechrau heddiw, gyda chyflwynwyr newydd yn ymuno â’r orsaf.

Ymysg y lleisiau newydd i’w clywed ar y gwasanaeth oedd ‘Tommo’, sef Andrew Thomas o Aberteifi, ac mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn ffafriol ar y wefan rhyngweithio gymdeithasol, Twitter.

Meddai Gwenan Ellis o Ddinbych ei bod yn credu bod Tommo yn chwarae “miwsig da” a dywedodd Catrin Newman o Abertawe ei bod hi’n “joio’r” rhaglen hyd yma ond ychwanegodd y  “bydde fe lot gwell i gael rhywun mor fywiog ar gyfer y rhaglen frecwast.”

Dywedodd cyn maswr rhyngwladol Cymru, Rupert Moon, fod y rhaglen yn “ddechreuad arbennig” i’w yrfa gyda’r BBC.

Ond fe wnaeth Osian Gruffydd gymharu steil uchel ei gloch Tommo fel “gwrando ar Brian Blessed.”

Roedd rhaglen Taro’r Post yn cael ei darlledu yn fyw o’r Galeri yng Nghaernarfon y pnawn ma, gydag aelodau o’r cyhoedd yn cael cyfle i ddweud eu dweud yng nghwmni Garry Owen.

Wrth siarad am amserlen newydd yr orsaf dywedodd yr awdures Mari Gwilym, oedd yn gwrando ar y sgwrsio yng nghaffi’r Galeri: “Dwi wedi fy siomi o’r ochor ora’.

“Rwy’n falch iawn fod Gari Wyn wedi cael cyfle i siarad dros amser cinio ac mae rhaglen Garry Owen wedi bod yn dda iawn hefyd.

“Hyd yn hyn, dwi wedi mwynhau’r rhaglenni. A dwi’n siŵr y bydd Tommo yn apelio at bobol yn y de orllewin hefyd.”

‘Rhy hir’

Ond roedd Emrys Llewelyn, a fu’n cyfrannu ar raglen Taro’r Post, o’r farn bod cael un darlledwr ar yr awyr am bedair awr yn gyfnod rhy faith gan gyfeirio at raglen Dylan Jones wedi’r Post Cyntaf yn y boreau:

“Roedd pedair awr yn gyfnod hir iawn i Dylan fod yn darlledu bore ma,” meddai.

“Ro’n i wedi drysu braidd wrth glywed llais rydw i’n ei gysylltu hefo trafod materion newyddiadurol fel arfer, yn chwarae cerddoriaeth yn ystod y rhaglen. Doeddwn i ddim yn gweld yr angen am hynny.

“Ac mae hi’n bechod ofnadwy colli rhaglen Dafydd a Caryl, ro’n i’n mwynhau honno’n fawr.

“Gawn ni weld beth fydd yr ymateb i weddill yr amserlen  – mi fyddwn ni’n siŵr o gael gwybod os na fydd pobol yn mwynhau.”

‘Asesu’r sefyllfa’

Meddai llefarydd ar ran Cylch yr Iaith, grŵp pwyso gafodd ei sefydlu yn dilyn gweld dirywiad yn safon y Gymraeg yn y cyfryngau, y bydden nhw’n “asesu’r sefyllfa” dros y misoedd nesaf.

Mae Golygydd Rhaglenni BBC Cymru, Betsan Powys, wedi dweud y bydd y newidiadau yn gwneud yr orsaf yn fwy perthnasol i bobl Cymru:

“Fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun”, dywedodd.

Er hyn, mae Betsan Powys yn derbyn na fydd pob rhaglen yn apelio at bawb, “ond fe fydd pob un yno i bwrpas, i apelio at rywun”, meddai.