Mae dau berson o Lannau Mersi wedi cael eu carcharu am herwgipio ac ymosod ar ddyn o’r Rhyl.

Fe wnaeth Anthony Paul Albert Staff a Joanne Schless ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw a’u cael yn euog o herwgipio ac ymosod ar ddyn 28 mlwydd oed o’r Rhyl ym mis Gorffennaf y llynedd.

Cafodd  Anthony Staff hefyd ei ddedfrydu mewn perthynas â throseddau cyffuriau a chynorthwyo troseddwr.

Cafodd Staff ei ddedfrydu i 10 mlynedd o garchar am geisio achosi niwed corfforol difrifol, pedair blynedd am herwgipio a blwyddyn am achosi niwed corfforol (ABH). Bydd y dedfrydau yn cydredeg.

Cafodd Joanne Schless ei charcharu am 21 mis am herwgipio.

Dywedodd y Ditectif Rhingyll Sophie Woods o Heddlu Gogledd Cymru bod cydweithrediad rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Glannau Mersi wedi bod yn hollbwysig i ddod ar ddau o flaen eu gwell.

Meddai: “Rwy’n gobeithio bod  hyn yn anfon neges glir i eraill bod y math hwn o droseddu yn gwbl annerbyniol a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i dargedu unigolion ac amddiffyn ein cymunedau.”

Dywedodd y ditectif arolygydd Sion Williams o Heddlu Gogledd Cymru: “Does gen i ddim amheuaeth bod y ddau yn rhan o duedd barhaus o werthwyr cyffuriau o Lannau Mersi sy’n gweithredu yn ein hardal gan ddefnyddio trais a bygythiadau i atgyfnerthu eu cyflenwad o gyffuriau.”

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am gynhyrchu a chyflenwi cyffuriau i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.”