Y car yn cael ei symud o safle'r ddamwain yn y Rhws
Fe fydd gyrrwr sydd wedi ei gyhuddo o yrru’n ddiofal gan achosi niwed i ddynes lolipop a phlant ysgol ym Mro Morgannwg yn sefyll ei brawf ym mis Mai.

Cafodd Robert Bell o’r Rhws ei arestio’r llynedd ar ôl i’w gar Audi A3 wyro oddi ar y ffordd a throi ar ei do tu allan i Ysgol Gynradd y Rhws ym Mro Morgannwg.

Mae Bell, 61 oed, yn gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn gan honni ei fod wedi ei daro’n wael tra’n gyrru.

Cafodd y ddynes lolipop Karin Williams ei hanafu’n ddifrifol yn y ddamwain ar 20 Mehefin ar ôl iddi neidio o flaen y car er mwyn achub bywydau grŵp o blant.

Fe enillodd Karin Williams, 50, wobr Pride of Britain am ei dewrder.

Roedd Bell wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw lle’r oedd wedi cadarnhau ei enw, ei oed a’i gyfeiriad.

Mae disgwyl i 12 o bobl roi tystiolaeth yn ystod yr achos gan gynnwys Karin Williams.

Fe fydd Bell, a gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, yn sefyll ei brawf yn Llys Ynadon Caerdydd ar 14 Mai.