Cyngor Sir Benfro
Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry Jones wedi goroesi pleidlais o ddiffyg hyder prynhawn ma.

Roedd na feirniadaeth lem o’r arweinyddiaeth yn y cyfarfod yn Hwlffordd gyda rhai yn cyhuddo’r prif weithredwr o bardduo enw da yr awdurdod.

Serch hynny, collwyd y bleidlais  gyda 23 yn pleidleisio o blaid y cynnig o ddiffyg hyder a 30 yn erbyn.  Roedd pump o gynghorwyr wedi atal pleidlais.

Mae Bryn Parry Jones yn wynebu ymchwiliad gan yr heddlu i daliadau ‘anghyfreithlon’ i uwch swyddogion y Cyngor, yn dilyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae e wedi parhau yn ei swydd tra bo’r ymchwiliad yn parhau, ond mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, sydd hefyd yn rhan o’r un ymchwiliad, wedi camu o’r neilltu dros dro.

Heddlu Swydd Gaerloyw sy’n ymchwilio i’r honiadau.

Fis diwethaf, galwodd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Angela Burns arno i adael ei swydd dros dro, gan ychwanegu y dylid cynnal ymchwiliad annibynnol i’w ymddygiad.

Mae Bryn Parry Jones wedi gwadu ei fod wedi camymddwyn.

Yn y cyfamser mae cabinet Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo cynnydd o 3.4% yn y dreth cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £20 miliwn.