Fe fyddai llywodraeth sy’n cael ei redeg gan Blaid Cymru yn ystyried buddsoddi £300 miliwn mewn addysg blynyddoedd cynnar, er mwyn rhoi cyfle cyfartal mewn bywyd i bob plentyn.

Dyma un dewis sy’n cael ei amlinellu mewn papur ymgynghori ar ddyfodol gofal plant sy’n cael ei lansio gan y Blaid heddiw.

Mae’r papur yn dadlau mai buddsoddi mewn gofal plant yw’r ffordd orau o roi cyfle cyfartal i blant mewn bywyd yn ogystal â galluogi rhieni i ddychwelyd i waith heb orfod wynebu biliau gofal plant.

Un dewis yn y papur yw cynnig lle Cyfnod Sylfaen llawn-amser am ddim i bob plentyn 3-4 oed.

Y dewisiadau eraill sy’n cael eu hawgrymu yw ychwanegu at y deg awr bresennol o le ar y Cyfnod Sylfaen gydag ugain awr o ofal plant am ddim, a chynnig deg awr o ofal plant am ddim ar ben y deg awr o le ar y Cyfnod Sylfaen am ddim ac ugain awr o ofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed.

‘Gwella ffawd economaidd Cymru’

Dywedodd Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, mai buddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd da yw’r ffordd orau i wella ffawd economaidd Cymru:

“Os gallwn gael hynny’n iawn, gallwn wneud cyfle plant mewn bywyd yn gyfartal, fel na fydd dim yn eu ffordd rhag cyrraedd eu potensial.

“Yn ogystal â bod yn dda i blant, mae hyn yn dda i rieni hefyd. Mae gofal plant yn aml yn cael ei roi fel un o’r prif resymau fod rhieni yn teimlo na allant ddychwelyd i waith. Ond bydd mynediad am ddim at addysg blynyddoedd cynnar yn galluogi rhieni i ddychwelyd i waith heb orfod gwneud penderfyniadau anodd ar ofal plant.”

‘Gofal plant yn uwch na morgais’

Meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae rhieni yng Nghymru ar hyn o bryd yn talu rhai o’r costau uchaf am ofal plant yn y byd datblygedig. Yr wythnos hon yn unig, fe glywsom fod hyd yn oed cost anfon plentyn i feithrinfa yn rhan-amser bellach yn uwch na’r bil cyfartalog am forgais.”

Bydd y Blaid yn ymgynghori ar wahanol fodelau cyllido, gan gynnwys cyllid posib gan yr UE, ac ail-flaenoriaethu’r gwario presennol.