Mae teulu gwraig a ddioddefodd drais yn y cartre’ cyn cael ei lladd y llynedd, wedi galw ar i ddioddefwyr siarad allan os yw’r un peth yn digwydd iddyn nhw.

Ddoe, fe gafwyd Kelvin Newton yn euog o lofruddio Assia Newton, 44, ym Mhencoed ym mis Gorffennaf 2013, a hynny wedi cyfres o ymosodiadau. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.

“Fydd cyfiawnder, hyd yn oed, ddim yn ddigon i wneud yn iawn am golli y fam, y ferch, y chwaer, y fam-gu a’r fodryb oedd Assia,” meddai datganiad ar ran y teulu. “Fyddwn ni hyd yn oed ddim yn gwybod am bopeth ddigwyddodd iddi.

“Does dim edifeirwch wedi’i ddangos, a dyw Kevin Newton ddim wedi treial ymddiheuro am beth wnaeth e…

“Ond ni’n gobeithio y bydd merched sy’n diodde’ o drais yn y cartre’ yn cael mwy o hyder i ddod ymlaen a dweud wrth yr heddlu am yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw,” meddai’r teulu wedyn.

“Fel teulu, fe fyddwn ni’n dal ati i godi arian i fudiad Cymorth i Fenywod Cymru, yn y gobaith y byddwn ni’n gallu rhwystro teuluoedd eraill rhag cael eu hunain yn yr un sefyllfa ofnadwy â ni.”