Georgia Marshall
Mae cwest yng Nghaerdydd wedi clywed sut y bu i ferch ifanc farw ar ôl cael sioc drydan wrth iddi geisio helpu ei thad i addurno’r tŷ ar gyfer y Nadolig.

Roedd Georgia Marshall, 13, o’r Barri, yn dal stôl fetel er mwyn i’w thad chwilio am focs o addurniadau yn yr atig ddechrau mis Rhagfyr y llynedd.

Fe fu i’r stôl gyffwrdd a gwifren fyw gan yrru cerrynt 240 folt drwy gorff y ferch. Fe gwympodd i’r llawr yn syth ac nid oedd parafeddygon yn gallu ei hadfywio.

Dywedodd Crwner Cynorthwyol y cwest, Christopher Woolley fod y ferch ifanc wedi marw “bron ar unwaith.”

Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain.