Elfyn Llwyd - galw am gyhoeddi'r adroddiad
Mae aelod seneddol wedi galw ar yr heddlu i gyhoeddi adroddiad am un o’r achosion gwaetha’ o garcharu ar gam yng Nghymru.

Yn ôl AS Dwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd, mae lles y cyhoedd yn ystyriaeth bwysicach na dim arall yn achos y gwerthwr papur newydd, Phillip Saunders, o Gaerdydd.

Fe ddywedodd Comisiynydd Heddlu De Cymru, Alun Michael, nad oedd yr adroddiad yn barod eto ac y byddai’n cael ei gyhoeddi heb dorri dim mwy nag oedd angen.

Yr achos

Fe fu’n rhaid i dri dyn dreulio 11 mlynedd yn y carchar ar gam am y llofruddiaeth a ddigwyddodd yn 1987, a hynny ar sail cyfaddefiad gan un ohonyn nhw.

Fe ddywedodd y Llys Apêl nad oedd modd dibynnu ar hwnnw ac mae honiadau wedi eu gwneud bod rhai o swyddogion Heddlu De Cymru wedi ffugio tystiolaeth.

‘Haeddu’r gwir’

Yn ôl Elfyn Llwyd mae adroddiad am ymddygiad yr heddlu wedi bod yn nwylo Heddlu De Cymru ers dwy neu dair blynedd ond, hyd yn hyn, maen nhw wedi gwrthod ei gyhoeddi.

“Mae pobol Cymru’n haeddu cael y gwir,” meddai AS Plaid Cymru wrth Radio Wales. “Os oes camymddwyn wedi bod gan swyddogion heddlu, mae gynnon ni’r hawl i wybod.

“Po hira’ y bydd hyn yn parhau, mwya’ yn y byd y bydd pobol yn amau bod rhywbeth o’i le.”

Dyw dadleuon y gallai cyhoeddi’r adroddiad beryglu cyfiawnder ddim yn ddilys, meddai’r gwleidydd sy’n aelod o Bwyllgor Cyfiawnder Ty’r Cyffredin ac yn fargyfreithiwr. Mae’r heddlu eu hunain wedi cydnabod nad oes fawr o obaith o ddal y llofrudd.

Y cefndir

Fe gafodd Michael O’Brien, Ellis Sherwood a Darren Hall eu carcharu am oes am lofruddio Phillip Saunders, gwerthwr papurau newydd ar strydoedd Caerdydd.

Fe gafodd y penderfyniad hwnnw ei ddadwneud gan y Llys Apel ac fe gafodd Michael O’Brien ac Ellis Sherwood gyfanswm o hanner miliwn o bunnoedd o iawndal rhyngddyn nhw gan Heddlu De Cymru yn 2006.