Effaith y gwynt yn Aberystwyth echdoe
Mae tua 13,500 o gartrefi yn dal i fod heb drydan yng ngogledd Cymru bron ddeuddydd ar ôl y gwyntoedd mawr.
Fe allai gwyntoedd cryfion heddiw amharu ar waith adfer gan gwmni Scottish Power, er nad fyddan nhw’n agos cyn gryfed ag echdoe.
Yn ôl y cwmni, maen nhw wedi adfer trydan i 80% o’r cartrefi a gollodd eu cyflenwad ac maen nhw’n gobeithio y bydd y rhan fwya’ o’r gweddill yn ôl erbyn diwedd y dydd.
Ond, yn ôl llefarydd, mae’r gwaith sydd ar ôl yn waith mawr, gyda degau o weithwyr yn ceisio adfer y trydan mewn mannau lle mae nifer o goed wedi cwympo.
Tywydd garw heddiw
Ac mae rhybuddion am ragor o law ac eira yn ystod y dydd heddiw, er nad oes dim rhybuddion oren a choch am lifogydd.
Mae yna wyth rhybudd i bobol fod ar wyliadwriaeth rhag ofn llifogydd ar nifer o afonydd: rhannau ucha’ afonydd Teifi, Dyfrdwy a Hafren, afonydd de Penfro, prif afonydd Sir Fynwy ac afon Dyfrdwy ym Mangor Is-coed.
Mae rhybudd hefyd am eira ar hyd asgwrn cefn y wlad, o fynyddoedd Elenydd hyd at dde Eryri.