Tirion Lewis (llun heddlu)
Mae teulu merch a ddioddefodd ymosodiad erchyll gan gyn-gariad wedi croesawu dedfrydau euog arno yn Llys y Goron Abertawe ddoe.

Cafwyd Wayne Fox, 23 oed o Rydypennau, ger Aberystwyth, yn euog o wyth o gyhuddiadau a oedd yn cynnwys niwed corfforol difrifol bwriadol, herwgipio, dwyn cerbyd a gyrru peryglus yn dilyn ei ymosodiad ar Tirion Lewis, 19, flwyddyn a hanner yn ôl.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ymhen pythefnos.

Mewn datganiad ar y cyd â Miriam Evans, ffrind i Tirion Lewis a oedd gyda hi adeg yr ymosodiad, dywed y teulu:

“Rydym yn hapus gyda’r ddedfryd heddiw. Mae’n gywilydd fod yr achos hwn wedi cymryd mor hir i ddod i’r llys a’r ffaith ein bod ni’n gorfod ail-fyw’r hunllef eto.

“Fe allwn ni bellach symud ymlaen gyda’n bywydau gan wybodaeth y bydd yn cael ei ddedfrydu, a gobeithiwn na fydd yn cael y cyfle i wneud hyn eto a difetha bywyd rhywun arall.”

Dywed Heddlu Dyfed Powys hefyd eu bod nhw’n croesawu’r ddedfryd ddoe.

Meddai’r Ditectif Gwnstabl Louise Davies:

 “Dw i’n fodlon â’r ddedfryd, ond dw i’n cydnabod na fydd fawr o gysur i Tirion Lewis, Miriam Evans a’r teulu, sy’n dal i ddioddef effeithiau’r ymosodiad.

 “Roedd hwn yn ymchwiliad hir i ymosodiad milain, ond roedd ditectifs yn benderfynol o weld cyfiawnder yn cael ei wneud a thrwy eu gwaith trylwyr a’u hymroddiad mae unigolyn peryglus a threisgar wedi ymddangos yn y llys.

 “Er bod hwn yn ymosodiad difrifol, hoffwn dawelu meddyliau pobl bod y math yma o ddigwyddiadau’n gymharol brin yng Ngheredigion.”