Mae rhybuddion llifogydd mewn grym ledled Cymru a Lloegr ac mae disgwyl iddyn nhw barhau hyd at ddiwedd yr wythnos.

Mae eira hefyd wedi disgyn mewn ardaloedd fel Wrecsam a Sir Ddinbych ddoe ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod mwy o dywydd oer ar y ffordd a pheryg iddi rewi mewn rhai mannau dros nos.

Ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae 17 rhybudd i baratoi am lifogydd a 2 rybudd llifogydd mewn grym – y ddau olaf yn ardal y Ddyfrdwy isaf rhwng Llangollen a Threfelin, ac i’r afon Gwy yn Sir Fynwy.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio am wyntoedd cryfion iawn o tua hanner dydd ar ddydd Mercher, a allai achosi trafferthion ac oedi i deithwyr.

Afon Tafwys

Mae rhybuddion llifogydd, gyda pheryg i fywydau, yn dal mewn lle ar rannau o’r afon Tafwys yn Llundain ac mae’r fyddin yn dal i roi cymorth i bobol yng Ngwlad yr Haf.

Mae Swyddfa’r Met yn disgwyl gweld gwyntoedd o tua 80 milltir yr awr a hyd at 70mm (2.75 modfedd) o law yn disgyn mewn mannau yn ne Cymru, de orllewin Lloegr, gorllewin Yr Alban a Gogledd Iwerddon.