Mae ymgyrchwyr wedi croesawu cynlluniau, sydd wedi cael cefnogaeth Aelodau Seneddol, i wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant.
Roedd y Senedd wedi pleidleisio neithiwr o blaid cyflwyno deddfwriaeth a allai wneud ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant yn anghyfreithlon.
Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street heddiw eu bod yn ystyried cyflwyno’r gwaharddiad yn Lloegr cyn diwedd y flwyddyn.
Roedd rhai ASau wedi gwrthwynebu’r cynlluniau, gan gynnwys aelodau blaenllaw o’r Cabinet ond mae elusennau meddygol wedi dadlau y bydd yn achub cannoedd o filoedd o blant rhag dioddef o effeithiau mwg mewn ceir.
Mae’r bleidlais nawr yn rhoi’r cyfle i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwaharddiad tebyg.