Llys y Goron Abertawe
Fe fydd cariad dynes a gafwyd yn euog o’i thrywanu 40 o weithiau mewn ymosodiad yn ei chartref yn cael ei ddedfrydu heddiw.

Yn Llys y Goron Abertawe cafwyd Steven Daniel Williams, 30, o Heol Marsh, Dinbych y Pysgod yn euog o lofruddio Joanna Elizabeth Hall, 35, yn ei fflat ym mis Mawrth 2013. Roedd Williams wedi gwadu’r cyhuddiad.

Bu farw Joanna Hall yn yr ysbyty 19 diwrnod yn dilyn yr ymosodiad.

Roedd y rheithgor wedi clywed bod Joanna Hall wedi dweud wrth ei chwaer a’r heddlu mai Steven Williams oedd wedi ymosod arni.

Roedd o’n honni ei fod wedi mynd allan i brynu sigaréts a photel wisgi a’i fod wedi dychwelyd i’r fflat a dod o hyd i Joanna’n gwaedu ar y llawr, gan ddweud y gallai rhywun fod wedi ymosod arni tra’r oedd o wedi mynd allan.