Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi cyhoeddi y bydd aelodau yn cynnal streic undydd arall fis nesaf.
Bydd yr athrawon ysgol yn gweithredu’n ddiwydiannol ar 26 Mawrth, oherwydd anghydfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Michael Gove ynghylch tâl a phensiynau athrawon.
Mae aelodau UNSAIN, ynghyd ag aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau ac Unite Cymru eisoes wedi strecio ar Hydref 31, Rhagfyr 3 a dros y tridiau diwethaf, ynglŷn â gostyngiad o 13% yn eu cyflogau dros y pum mlynedd diwethaf.
“Mae Michael Gove wedi chwalu’r system dâl ar gyfer yr athrawon yn llwyr, ac mae e wedi gwneud newidiadau i bensiynau fydd yn effeithio’n negyddol ar y system addysg”, meddai Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
“Rydym yn falch o gael cydweithio gyda’r NUT ar fater sydd mor bwysig i athrawon ledled Cymru, ac i’r system addysg yn ei chyfanrwydd.”
Bydd UCAC mewn trafodaethau gyda Michael Gove dros yr wythnosau nesaf. Y gobaith yw y bydd modd osgoi’r angen i streicio, os bydd y trafodaethau’n rhai adeiladol.