Tric a Chlic
Mi fydd ysgol gynradd Gymraeg ym Mhatagonia yn defnyddio un o adnoddau dysgu mwyaf poblogaidd Cymru – rhaglen
Tric a Chlic.

Rhaglen sy’n annog rhuglder a mynegiant wrth ddarllen yw Tric a Chlic, sydd wedi ei greu gan Ganolfan gyhoeddi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mi fydd y rhaglen yn cael ei ddefnyddio yn Ysgol yr Hendre, Trelew, gan yr athrawes ifanc Sioned Wyn Jones, sy’n croesi’r dŵr ac yn  mynd yno ar gyfnod secondiad.

Mae Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth yn gobeithio y bydd yn “agor drysau i adnoddau’r Ganolfan yn y dyfodol”.

‘Agor drysau’

Mae Sioned Wyn Jones, 25, yn athrawes yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf,  ar hyn o bryd, ac yn mynd i’r Wladfa ymhen pythefnos.

Sefydlwyd Ysgol yr Hendre yn Nhrelew yn 2006 fel ysgol ddwyieithog, Cymraeg a Sbaeneg.  Mae tua chant o blant yn yr ysgol i gyd, a bydd Sioned Jones yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau Cymraeg disgyblion blwyddyn 1, 4 a 5 yr Ysgol.

“Rwyf wedi bod â diddordeb yn hanes Patagonia ers yn blentyn a doedd dim rhaid i mi feddwl ddwywaith am fynd allan yno i ddysgu” meddai Sioned, sy’n wreiddiol o Lanberis.

Ac fe ddywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, Mr Gwydion Wynne:

“Rydym yn falch i estyn ein cefnogaeth iddi hi ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, Patagonia, yn y gobaith y bydd hyn yn agor mwy o ddrysau i adnoddau’r Ganolfan yn y dyfodol.”