Tîm Cymru'n dathlu llynedd (Llun: gwefan URC)
Diswgylir i gan mil o gefnogwyr heidio i Gaerdydd heddiw ar gyfer gêm rygbi agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Cymru a’r Eidal yn Stadiwm y Mileniwm, a gêm bêl-droed Dinas Caerdydd yn erbyn Norwich City.

Bydd 74,000 o bobl yn gwylio Cymru yn cychywn yr ymgyrch i ddal ei gafael ar bencampwriaeth y Chwe Gwlad gan fod y tîm cyntaf erioed i wneud hynny am y trydydd tro yn olynol.

Draw ym Mharc Ninian, bydd yr Adar Gleision yn ceisio curo Norwich er mwyn codi oddi ar waelod tabl yr Uwch Gyngrhair.

Paratoi

Mae cyngor y brifddinas eisoes wedi bod yn paratoi ar gyfer y cefnogwyr, sy’n cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosibl.

Fe fydd bysiau wennol ar gael yn ogystal a rhagor o drenau i gludo’r cefnogwyr.

Bydd y gêm rybgi yn cychwyn am 2:30yp a’r gêm bêl-droed hanner awr wedyn am 3:00yp.

Trefniadau

Bydd nifer o ffyrdd ar gau yng Nghaerdydd rhwng 8:30yb a 5:30yh er mwyn osgoi tagfeydd.

“Y ffordd orau o deithio i’r digwyddiad yw ar drafnidiaeth gyhoeddus neu fysiau preifat lle bo hynny’n bosibl,” yn ôl llefarydd ar ran y cygnor.

“Gall y bobl hynny sy’n teithio mewn car osgoi tagfeydd a thalu llai am barcio drwy ddefnyddio gwasanaeth parcio a theithio’r Cyngor.

“Mae safle parcio a theithio ar gael yn Neuadd y Sir, Caerdydd (CF10 4UW) am bris o £6 fesul car. Gellir cyrraedd Neuadd y Sir oddi ar Gyffordd 33 yr M4.

“Y man gollwng a chasglu yng nghanol y ddinas fydd Gogledd Sgwâr Callaghan, yn y gilfan ger Eversheds.”

Mae’r cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth gadael bagiau ac ati yn y Ganolfan Croeso yn yr Hen Lyfrgell ar gyfer holl gemau cartref Pencampwriaeth y 6 Gwlad.