Newcastle 29–0 Dreigiau Casnewydd Gwent
Cafodd y Dreigiau gweir ar Barc Kingston nos Wener wrth i Newcastle ennill yn gyfforddus yn y gêm Cwpan LV.
Sgoriodd y tîm cartref bedwar cais ac i rwbio’r halen yn y briw fe orffennodd y Cymry’r gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn coch i Nick Cudd.
Croesodd Phil Godman a Mark Wilson (dau) am geisiau i’r Hebogiaid yn yr hanner cyntaf cyn i Fraser McKensie sicrhau pwynt bonws i’r tîm cartref yn yr ail hanner.
Llwyddodd Phil Godman gyda dau drosiad ac un gic gosb; a’r eilydd, Rory Clegg, gydag un trosiad hefyd.
Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn drydydd yng ngrŵp 1 gyda phedwar pwynt allan o bedair gêm.
.
Newcastle
Ceisiau: Phil Godman 7’, Mark Wilson 19’, 27’, Fraser McKensie 78’
Trosiadau: Phil Godman 7’, 27’, Rory Clegg 78’
Cic Gosb: Phil Godman 40’
Cerdyn Melyn: Matt Thompson 47’
.
Dreigiau
Cerdyn Coch: Nick Cudd 56’