Llys y Goron Caerdydd
Mae Dirprwy Brifathro Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wedi cyfaddef iddo osod camera cudd mewn tŷ bach, er mwyn ysbïo ar blant.

Plediodd Gareth Williams, 47, yn euog i dri chyhuddiad o sbecian wrth ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd heddiw.

Clywodd y llys fod yr heddlu wedi dod o hyd i go bach (memory stick), gyda lluniau o bump o blant yn defnyddio’r toiled mewn tŷ sydd heb ei enwi. Mae’r lluniau yn dyddio o fis Ionawr 2009 i fis Ionawr 2014.

Mae’r achos wedi ei gyfeirio at Lys y Goron Caerdydd, gan nad oedd barnwr yr achos yn teimlo fod y  pwerau sydd ganddo yn ddigonol i ddedfrydu Gareth Williams yn llawn.

Bydd gwrandawiad arall yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Chwefror, gyda Gareth Williams yn cael ei gadw dan glo tan hynny.