Y Famynys ddim eisiau priodi'r Tir Mawr
Mae cynghorwyr Plaid Cymru ar Ynys Môn yn frwd yn erbyn uno cyngor sir yr ynys gyda Gwynedd, fel sy’n cael ei argymell yng Nghomisiwn Williams.

Un pryder mawr yw y bydd uno yn arwain at gynnydd o 6.9% yn nhreth cyngor pobol Môn, fel eu bod yn talu’r un faint a’u cymdogion dros y Fenai yng Ngwynedd.

Pryder arall ydy na fyddai Ynys Môn yn cael llais cyfartal ar y cyngor newydd, am bod gan Gyngor Gwynedd dros ddwy waith yn fwy o gynghorwyr na’r ynys.

‘Methiant’

Yn ôl y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes o Blaid Cymru Caergybi, mae uno Gwynedd a Môn wedi ei dreialu eisoes, a methiant fu hynny meddai.

“Fe wnaeth Gwynedd gymryd bob dim drosodd. Roedd ysgolion Môn yn un enghraifft o hynny – hefo’r safon yn llawer uwch nag yng Ngwynedd, ond fe wnaethon nhw gymryd yr adnoddau gorau i gyd,”meddai.

Cyfartaledd

30 o gynghorwyr sydd gan Gyngor Môn ar hyn o bryd o gymharu gyda 75 yng Ngwynedd. Ac yn ôl Trefor Lloyd Hughes, petai’r uno yn digwydd, ni fyddai’r cyngor yn gyfartal.

“Dw i wedi clywed mai 20 cynghorydd o Fôn fyddai ar y cyngor newydd a 40 o Wynedd. Ar ba bynnag ochr ydach chi’n edrych ar y peth, mae hynny’n annheg,” meddai.

“Mi fyswn i o blaid y newid os fysai hanner a hanner o Fôn a Gwynedd  ar y cyngor – o ba bynnag plaid – ond fel arall dydi o ddim am roi chware teg i bobol Môn.”