Cocên
Mae dros £100,000 o arian cyhoeddus wedi ei wario ar wefan sy’n caniatáu i unigolion brofi cynnwys a safon cyffuriau yn anhysbys.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gwefan Wedinos y Gwasanaeth Iechyd yn helpu unigolion sy’n gaeth i gyffuriau ac yn gymorth i’r awdurdodau fonitro unrhyw newid yn y defnydd o gyffuriau.

Ond mae Ceidwadwyr Cymru yn opfni bod y wefan wedi caniatáu i werthwyr cyffuriau anghyfreithlon brofi safon eu cynnyrch, a hynny heb orfod datgelu eu henwau.

Ar y wefan mae rhestr o’r cyffuriau sydd wedi eu profi dros y mis diwethaf yn cynnwys cocên, heroin, crac, diazepam a’r tawelydd ceffylau ketamine.

Fe dderbyniodd gwasanaeth Wedinos £102,000 o arian gan Lywodraeth Cymru ar ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013/14, ac yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd mae hyn yn dystiolaeth pellach o wastraff arian.

Syfrdanol

“Mae’n syfrdanol fod unrhyw un, gan gynnwys delwyr cyffuriau, yn cael mynediad am ddim i wasanaeth analytig i brofi safon eu cyffuriau,” meddai Darren Millar.

“Wrth roi arian tuag at y prosiect hwn, mae Gweinidogion yn cymysgu’r neges fod y sylweddau anghyfreithiol yn niweidiol ac o bosib yn annog eu defnydd.

“Dylai Gweinidogion Llafur Cymru esbonio sut mae’r gwasanaeth yma’n darparu unrhyw fudd i drethdalwyr sy’n gweithio’n galed, neu ei gau ac ail-fuddsoddi’r arbediadau yn y gwasanaethau llinell flaen.”

Gwadu’r cyhuddiad

Nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod unrhyw sail i honiad y Ceidadwyr bod gwerthwyr cyffuriau yn cael dadansoddi eu cynnyrch am ddim .

“Rydym ni’n gwadu’r honiadau yma’n llwyr,” meddai llefarydd. “Rydym ni’n cymryd camau i helpu unigolion a chymdeithas i ddelio â’r broblem o gamddefnydd sylweddau.

“Mae Wedinos yn gallu darparu gwybodaeth hanfodol a helpu achub bywydau. Mae’n cyfrannu i’r Systemau Rhybudd Cynnar DU ac Ewropeaidd ar gyfer adnabod a monitro newidiadau mewn arferion defnyddio cyffuriau.”