Roedd yna bron 400 o achosion o dreisio rhywiol yn erbyn plant yng Nghymru yn ystod y flwyddyn lawn ddiwetha’ ond dim ond ychydig tros 130 a orffennodd gyda chosb – un o bob tri.
Mae’r bwlch rhwng nifer y troseddau a’r llwyddiant wrth erlyn hyd yn oed yn fwy ymhlith oedolion, gyda’r heddlu’n cofnodi 539 o achosion o drais rhywiol a llai na 160 yn arwain at gosb.
Ond mae’r ffigurau’n gwella, meddai’r adroddiad.
Mae’r ffigurau ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth y llynedd wedi eu cyhoeddi ar gyfer holl heddluoedd Cymru a Lloegr gan Arolygiaeth yr Heddlu.
Rhai o’r penawdau
- Mae’r ystadegau’n dangos fod Gogledd Cymru yn drydydd ar y rhestr o 42 am lefel y treisio rhywiol ymhlith oedolion – nifer yr achosion yn ôl pob 100,000 o boblogaeth.
- Mae pob un o heddluoedd Cymru’n gwneud yn well na’r cyfartaledd o ran llwyddiant wrth ddatrys ac erlyn, gyda Heddlu De Cymru’n drydydd ar y rhestr – fe orffennodd 30% o’r achosion yno gyda chosb.
- Mae lefel y treisio wedi codi yn ardaloedd pob un o’r heddluoedd ond mae’r Arolygiaeth yn pwysleisio bod gwell trefn wrth ymdrin â chwynion yn rhannol gyfrifol am hynny.
Mae’r cyfansymiau’n ymwneud â chwynion ac fe fydd rhai o’r rheiny’n cael eu tynnu’n ôl wedyn – ond dim ond tua 12% trwwy Gymru a Lloegr ac, ymhlith plant yng Nghymru, llai na 3%.
Croesawu
Roedd Heddlu De Cymru, lle cododd y nifer o 138 i 199 yn ystod y flwyddyn yn croesawu’r ffigurau am eu llwyddiant wrth erlyn a datrys.
“Mae Heddlu De Cymru wedi gweithredu’n fwriadol i annog dioddefwyr i ymddiried yn ien gwasanaeth ac i roi gwybod i ni am droseddau treisio a throseddau rhywiol,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Liane James.
“Rydym yn credu fod y cynnydd yn arwydd o ragor o hyder yn ein gallu a gallu ein partneriaid i ymchwilio’n drwyadl a chefnogi dioddefwyr trwy’r hyn sy’n debyg o fod yn amser mwya’ trawmatig eu bywydau.”
Yr ystadegau
Treisio rhywiol yn erbyn plant (nifer) a lefel cosbi (%)
De Cymru 145 33%
Dyfed-Powys 58 26%
Gogledd C 113 31%
Gwent 82 40%
Cym a Lloegr 18%
Treisio rhywiol yn erbyn oedolion (nifer) a lefel cosbi (%)
De Cymru 199 30%
Dyfed-Powys 53 21%
Gogledd C 171 19%
Gwent 116 19%
Cym a Lloegr 31%
Mae adroddiad llawn yr Arolygaeth fan hyn.