Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl i’r Gwasanaeth Ambiwlans  fethu cyrraedd targed o ran ymateb i alwadau brys ym mis Rhagfyr.

Cyhoeddwyd heddiw bod y Gwasanaeth Ambiwlans  yng Nghymru wedi ymateb i 57.6% o achosion brys o fewn wyth munud ym mis Rhagfyr  y llynedd.

Cafodd y targed o 65% ei gyrraedd ym mis Hydref am y tro cyntaf ers mis Mai 2012 ond fe’i methwyd eto ym mis Tachwedd.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod yr amseroedd ymateb wedi gwaethygu eto.

‘Gwaethygu eto’

Meddai Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, bod y ffigyrau’n “tanseilio” sicrwydd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford fod amseroedd ymateb yn gwella.

Dywedodd Kirsty Williams: “Efallai y bydd y gweinidog yn rhoi’r bai ar y pwysau ychwanegol mae tywydd oer y  gaeaf yn ei roi ar y gwasanaeth, ac mae’n wir fod nifer uchel o alwadau brys wedi bod ym mis Rhagfyr.

“Ond dyw ymateb i  65% o alwadau sy’n bygwth bywyd o fewn 8 munud ddim yn darged uchelgeisiol, ac eto mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu a’i chyrraedd yn gyson. Mae angen i’r gweinidog  edrych ar pam bod amseroedd ymateb yn gwaethygu unwaith eto.”Bottom of Form

Top of Form