Protestiadau yn Kiev
Mae Llywodraeth yr Wcráin yn ystyried cyflwyno amnest i’r rhai a gafodd eu harestio yn ystod y protestiadau yn Kiev dros y misoedd diwethaf.

Ond mae’n ymddangos y gall yr amnest ddod ynghlwm ag amodau na fyddai’r gwrthryfelwyr yn fodlon a nhw.

Bydd aelodau yn pleidleisio dros ddau gynnig amnest, a bydd un ohonyn nhw’n cael eu cynnig ar yr amod fod protestwyr yn gadael y strydoedd, lle maen nhw wedi sefydlu gwersyll, ac adeiladau’r brifddinas sydd wedi cael eu meddiannu.

Ddoe, roedd y Prif Weinidog Mykola Azarov a’i gabinet wedi ymddiswyddo wedi misoedd o brotestiadau.

Mae’r senedd hefyd wedi diddymu deddf ddadleuol oedd yn gwrthod caniatáu protestiadau.

Cefndir

Dechreuodd y protestiadau ar ôl i arlywydd y wlad, Viktor Yanukovych, ohirio arwyddo cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd a chreu cytundebau â Rwsia yn lle hynny.

Aeth pethau o ddrwg i waeth dros yr wythnos ddiwethaf wrth i brotestwyr gychwyn gwrthdaro â’r heddlu gerllaw senedd y wlad yn sgil cyfreithiau newydd llym yn erbyn protestiadau.