Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi galw ar i gyngor Sir Benfro gywiro gwybodaeth gamarweiniol am yr iaith Gymraeg mewn hysbyseb swydd.

Mewn hysbyseb diweddar ar gyfer swydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol dywed y Cyngor nad yw’r iaith Gymraeg yn rhan flaenllaw o ddarparu gofal cymdeithasol yn y sir.

Dywed yr hysbyseb mai dim mewn mewn rhai rhannau o ogledd Penfro y siaredir yr iaith Gymraeg.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae tua 23,000 o siaradwyr Cymraeg yn sir Benfro, sef tua 19% o’r boblogaeth. Yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol, mae’r datganiad yn yr hysbyseb yn rhoi camargraff o’r sefyllfa ieithyddol yn sir Benfro ac felly yn bychanu’r defnydd o’r Gymraeg ac o angen siaradwyr Cymraeg i gael gofal cymdeithasol yn y Gymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd: “Rydym yn croesawu’r ffaith bod y sir yn cynnig hyfforddiant iaith am ddim i weithwyr ond byddai’n dda gweld y Cyngor yn gwneud ymdrech wirioneddol i ddarparu gweithwyr cymdeithasol sy’n gallu delio â siaradwyr Cymraeg yn drylwyr yn hytrach na chynnig rhai ymadroddion yn unig fel cwrteisi.

“Hoffem weld Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw Sir Benfro at arfer da yn y maes hwn, galw arnyn nhw i gywiro’r wybodaeth, ac i gynnig gwell gwasanaeth trwy’r Gymraeg,” meddai Heini Gruffudd wedyn.