Mae’r Fyddin Brydeinig yn dechrau ymgyrch recriwtio newydd yng Nghymru heddiw – er mwyn tanlinellu, meddai, y “cannoedd” o wahanol gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y Fyddin Arferol a’r Fyddin Wrth-gefn.

Fe fydd digwyddiadau’n cael eu cynnal led-led Cymru heddiw, yn rhoi cyfle i bobol gyfarfod milwyr “cyffredin”.

Fe fydd yr ymgyrch hefyd yn tynnu sylw at bresenoldeb y Fyddin mewn canolfannau Cymreig fel Aberhonddu (lle mae’r Frigad Gymreig; yn ogystal a chanolfan hyfforddi Pontsenni.

Heddiw, fe fydd y Fyddin yn chwilio am “adeiladwyr, arbenigwyr ym maes cyfathrebu a thechnegwyr milfeddygol”… yn ogystal a “milwyr ifanc”.