Ashley Wells (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth, wedi diflaniad dyn 26 oed o’i gartre’ yn Gabalfa.

Does neb wedi gweld Ashley Wells ers 8.34yh, ddydd Sul, Ionawr 5.

Ar y pryd, roedd yn gwisgo jins, esgidiau canfas lliw brown, a siaced werdd ‘rhy fawr’ iddo gyda hwd a ffwr o gwmpas yr ymyl.

Yn ol yr Heddlu, mae Ashley Wells yn ymwelydd cyson a gorllewin Cymru, yn enwedig Trefdraeth, Sir Benfro. Mae ganddo hefyd gysylltiadau yn ardal Gwent.