Canolfan Siopa Dewi Sant
Mae dros filiwn o bobol wedi ymweld â chanolfan siopa Dewi Sant yn Nghaerdydd dros yr wythnos ddiwethaf, ac mi welodd canolfan siopa’r Quadrant yn Abertawe gynnydd o 4% mewn masnach ym mis Rhagfyr o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Bu adroddiadau yn y gogledd hefyd bod tua 1,000 o bobl wedi ciwio tu allan i un siop yn Wrecsam cyn i’r sêls ddechrau.

Ac roedd masnachwyr yng nghanolbarth Cymru hefyd wedi gweld mwy o werthiant dros yr un cyfnod gan beri i berchnogion siopau yng Ngheredigion ddweud fod ganddyn nhw “hyder tawel” ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.