Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn afon yn Nant Ffrancon, ger Bethesda, brynhawn ddoe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 4 o’r gloch, a chafodd y ddynes ei chadarnhau’n farw yn y fan a’r lle.

Dywedodd Paul Smith ar ran Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod yn credu i’r ddynes fynd allan i gael golwg ar y cyflenwad dŵr i’w thŷ:

“Ychydig yn ddiweddarach fe sylwodd ei chymar ei bod hi wedi mynd a galwodd am help.

“Cafwyd hyd iddi tua 50 metr o’i thŷ mewn nant fechan sy’n llifo i lawr y mynydd – tua hanner metr o led a thri chwarter metr o ddyfnder – ond roedd yn ei llawn lif.”

Digwyddodd y trychineb ar ddiwrnod o law trwm a stormydd, pryd y cafodd gwynt o 87 milltir yr awr ei gofnodi yng Nghapel Curig gerllaw – y cyflymder uchaf erioed i gael ei gofnodi yno.

Gydag ardaloedd helaeth ledled Cymru a Lloegr yn dioddef tywydd tebyg, cafwyd hyd i gorff dyn yn afon Rothay yn Ambleside, Cumbria hefyd.