Trenau Arriva Cymru
Ni fydd trenau Trenau Arriva Cymru yn rhedeg ddydd Sul ar ôl i undeb Aslef atal eu gyrwyr rhag gweithio dros eu horiau.
Penderfynodd aelodau Aslef wahardd gyrwyr rhag gweithio dros eu horiau ar 27 Chwefror, diwrnod cyn streic 24 awr yn ne Cymru.
Dywedodd y cwmni na fyddai unrhyw wasanaethau yn rhedeg ddydd Sul yma, ond y byddai yna wasanaeth bws yn ei le.
Mae Trenau Arriva Cymru wedi cynnig codi cyflog gyrwyr 12% dros gyfnod o ddwy flynedd.
Fe fyddai hynny’n golygu eu bod nhw’n ennill £39,117 am weithio 35 awr yr wythnos.
Yn ôl Aslef mae gyrwyr Trenau Arriva Cymru yn cael eu talu llai na gyrwyr cwmnïau eraill.