Bydd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi yn rhybuddio heddiw bod angen herio stereoteipiau ynghylch pobl dlawd yn ogystal â’r iaith sy’n cael ei ddefnyddio i’w disgrifio.

Mae disgwyl i Vaughan Gething ddweud fod y drafodaeth ar y newidiadau i’r system les wedi cynyddu’r camdybiaethau ynghylch rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas

Wrth siarad cyn digwyddiad Oxfam Cymru yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, soniodd am yr iaith a gaiff ei defnyddio i drafod tlodi: “Mae llawer o’r iaith yr ydym wedi’i gweld a’i chlywed yn ddiweddar am bobl dlawd, ac yn arbennig y rhai sy’n derbyn budd-daliadau, wedi bod yn gamarweiniol a hefyd yn aml yn fileinig.

“Mae diwygiadau lles dadleuol Llywodraeth y DU wedi ysgogi sawl un i ddifrïo a beirniadu’n hallt rai o bobl fwyaf difreintiedig ac ynysig ein cymdeithas.”

‘Ni a nhw’

Ychwanegodd Vaughan Gething y gall pobl sy’n derbyn cymorth oddi wrth y wladwriaeth ac yn wynebu heriau yn ddyddiol  fod yn bobl mae unrhyw un wedi cydweithio â nhw yn y gorffennol ond sydd bellach yn ddi-waith neu wedi datblygu salwch.

“Nid yw pobl sy’n derbyn cymorth i dalu am eu cartref neu arian ychwanegol i fyw arno yn fwrn na’n faich ar y wlad. Maen nhw’n bobl yr ydym ni, fel cymdeithas waraidd, yn eu cynorthwyo tra’u bod mewn angen.

“Mae’n rhaid i ni gofio effaith iaith o’r fath ar y bobl sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i ddal dau ben llinyn ynghyd a chynnal eu teuluoedd. Rhaid i ni geisio sicrhau nad oes rhaniad rhwng y bobl sy’n derbyn budd-daliadau a’r rhai nad ydynt yn eu derbyn. Bydd creu diwylliant o ‘ni a nhw’ yn niweidiol i bob un ohonom.

“Diweithdra ac nid pobl ddi-waith yw’r her fwyaf yr ydym yn ei hwynebu. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau lles sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU. Byddwn hefyd yn herio’r stereoteipiau a’r camdybiaethau ynghylch y bobl sy’n dibynnu ar nawdd cymdeithasol.”