Sam Warburton
Mae capten Cymru Sam Warburton wedi gosod terfyn amser erbyn dydd Mercher ar gyfer arwyddo cytundeb newydd gyda rhanbarth y Gleision.

Os na fydd cytundeb newydd wedi’i arwyddo erbyn hynny, mae’n ymddangos fel y bydd Warburton yn paratoi i ymadael am glwb yn Ffrainc neu Loegr, er nad yw’n dymuno gwneud hynny.

Yn ôl papur newydd y Telegraph, mae Warburton wedi mynegi’i fodlonrwydd i aros gyda’r Gleision ar gyflog is nag y byddai’n ei dderbyn yn Ffrainc, cyn belled a bod cytundeb yn cael ei gyflwyno.

Ond gydag ansicrwydd dros bron bob elfen o ddyfodol y rhanbarthau, o’u sefyllfaoedd ariannol i’r cystadlaethau y bydden nhw’n cymryd rhan ynddyn nhw yn y tymor nesaf, mae’n debygol fod Warburton am wneud penderfyniad yn fuan.

Mae Undeb Rygbi Cymru ar hyn o bryd yn fodlon cyfrannu £1m yr un i’r pedwar rhanbarth i geisio cadw’u sêr mwyaf, ond mae’r berthynas rhwng y rhanbarthau a’r Undeb wedi suro’n sylweddol.

Ac yn ôl y Telegraph, ni fydd yr Undeb nawr yn rhyddhau’r arian hwnnw os na fydd pob un o’r chwe prif chwaraewr – Warburton, Leigh Halfpenny, Alun Wyn Jones, Adam Jones, Scott Williams a Rhys Priestland – yn arwyddo cytundebau newydd â’u rhanbarthau.

Mae’r pedwar rhanbarth yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn yr Undeb Rygbi oherwydd y trafferthion yn ymwneud â’r gêm yng Nghymru, gyda chadeirydd Saracens yn awgrymu’n ddiweddar y byddai modd i’r rhanbarthau ymuno â Chynghrair Aviva yn Lloegr y tymor nesaf.