Martyn Thomas Llun: Gwefan clwb Caerloyw
Doedd hi ddim yn benwythnos gwych ar y cyfan i lawer o’r Cymry oddi cartref gyda’u clybiau yn y cystadlaethau Ewropeaidd – ac fe fydd alltudion y tymor nesaf yn gobeithio am lwyddiant gwell.

Mike Phillips oedd yr unig Gymro ar y cae i Racing Metro ar ôl arwyddo i’r clwb yr wythnos diwethaf, gan ymddangos oddi ar y fainc – ond doedd e methu gwneud unrhyw beth i atal y llif yn erbyn y Ffrancwyr wrth i Harlequins eu maeddu nhw 8-32 yng ngrŵp 4 Cwpan Heineken.

Ni chafodd James Hook a Luke Charteris fawr mwy o lwc, wrth i Perpignan dderbyn crasfa yn Thomond Park gan Munster o 36-8 gyda’r ddau ohonyn nhw’n dechrau.

Hook oedd y capten am y dydd hefyd, gan drosi un gic gosb ond methu gydag un arall ar brynhawn siomedig tu hwnt ar y cyfan – er iddo greu cais yn y munud olaf o’r diwedd i Joffrey Michel ar ôl dwylo da.

Profodd George North benwythnos trychinebus hefyd, gan fethu a chreu unrhyw argraff wrth i Northampton gael cweir o 7-40 gartref yn erbyn Leinster, canlyniad fydd yn ei gwneud hi’n anoddach fyth iddyn nhw o Grŵp 1.

Roedd Lee Byrne yn y tîm buddugol wrth i Glermont drechu’r Scarlets yn hawdd o 32-11, ond doedd hi ddim yn brynhawn da iddo ef yn bersonol wrth iddo orfod gadael y maes gydag anaf hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf.

Ond fe serennodd Martyn Thomas dros Gaerloyw, gan sgorio cais ym mhob hanner wrth iddyn nhw drechu Caeredin yng ngrŵp 6 i aros o fewn cyrraedd Munster.

Phil Dollman oedd yr unig Gymro yn nhîm Caerwysg unwaith eto, wrth iddyn nhw golli 9-14 i Toulon yn Sandy Park, tra mai Marc Jones oedd yr unig un i ddechrau dros Sale wrth iddyn nhw golli 16-10 i Oyonnax yng Nghwpan Amlin.

Roedd bechgyn Biarritz yn fwy lwcus, gydag Aled Brew a Ben Broster yn dechrau gyda’i gilydd am y tro cyntaf y tymor hwn, wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth o 19-15 yn erbyn Jonathan Thomas a Chaerwrangon gyda chais yn y funud olaf gan Tanguy Molcard.

Roedd hi’n benwythnos gwell i Darren Allinson ac Andy Fenby, y ddau’n dechrau i dîm buddugol Gwyddelod Llundain, a drechodd Stade Francais 24-13.

Seren yr wythnos: Martyn Thomas – dwy gais bwysig i helpu Caerloyw i fuddugoliaeth sydd yn eu cadw o fewn cyrraedd yr wyth olaf.

Siom yr wythnos: George North – digon o ddewis yr wythnos hon, ond dyw North jyst ddim wedi llwyddo i danio dros ei glwb eto.