Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion wedi i ddyn 40 oed gael ei ladd mewn damwain beic modur yn Abertawe ddoe.
Fe darodd y beic modur â rhwystr metel ar ffordd ger Canolfan Hamdden Pontardawe, am 4:50yh bnawn dydd Sul. Fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Nid yw enw’r dyn wedi cael ei gyhoeddi ond credir ei fod yn ddyn lleol.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y beic modur coch a gwyn 125cc i gysylltu â nhw.