Mae Dŵr Cymru wedi datgan y byddan nhw’n cadw’r cynnydd mewn biliau dwr yn is na’r gyfradd chwyddiant tan 2020.

Mewn termau real, mae’r cwmni’n credu y bydd y cynllun yn golygu y bydd biliau dŵr yn 2020 yn 12.5% yn is nag oedden nhw yn 2010.

Bu Dwr Cymru yn cyhoeddi ei gynllun busnes ar gyfer y pum mlynedd rhwng 2015 a 2020 heddiw pan wnaethon nhw hefyd amlinellu buddsoddiad o £1.5 biliwn yng ngwasanaethau dŵr a charthffosiaeth y cwmni dros yr un cyfnod.

Dywedodd y cwmni y bydd y cynllun, sydd wedi cael ei gyflwyno i Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, yn eu galluogi i gynnal a gwella’r gwasanaeth cyhoeddus mwyaf hanfodol ar gyfer yr 1.4 miliwn o gwsmeriaid a hynny wrth gadw’r biliau mor fforddiadwy â phosibl.

Ymgynghori

Dros yr haf, fe wnaeth Dŵr Cymru gynnal ei ymgynghoriad cyhoeddus mwyaf erioed ac meddai’r cwmni bod canlyniadau’r ymgynghoriad wedi chwarae rhan allweddol mewn creu’r cynllun busnes.

Dywedodd Bob Ayling, Cadeirydd Glas Cymru sy’n berchen ar gwmni Dŵr Cymru:  “Mae Dŵr Cymru’n unigryw ymysg y cyfleustodau cyhoeddus am nad oes unrhyw gyfranddaliadau ganddo, sy’n golygu bod ei holl elw’n mynd i’r cwsmeriaid ar ffurf biliau is neu fuddsoddiad uwch.

“Erbyn 2020, byddwn wedi gweld deg blwyddyn yn olynol o filiau’n cynyddu’n is na chwyddiant – sydd wedi gostwng ein prisiau 12.5% mewn termau real. Ond gyda rhaglen fuddsoddi o £1.5 biliwn, rydyn ni’n dal ati i fuddsoddi’n sylweddol er mwyn cynnal a gwella ein gwasanaethau, fel y mae ein cwsmeriaid wedi gofyn i ni ei wneud.

“Am ein bod ni’n berchen ar y cwmni ar ran ein cwsmeriaid, eu barn nhw yw’r peth pwysicaf un i ni, ac mae eu mewnbwn wedi bod yn bwysig dros ben i ni yn ystod y broses o baratoi’r cynllun hwn.