Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol y dydd Gwener mwyaf llwyddiannus erioed yn ei hanes yn Ninbych eleni, diolch i gyngerdd Edward H Dafis.

Roedd y 28,237 o bobl a ddaeth i’r Maes ar y dydd Gwener yn torri pob record, yn ôl y trefnwyr, sy’n cydnabod y cyngerdd fel ‘un o uchafbwyntiau’r ŵyl’.

Mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi heddiw fod ganddi £76,000 ar ôl yn y banc wedi prifwyl a ddenodd gyfanswm o 153,700 o ymwelwyr drwy’r wythnos – ffigur sy’n cymharu’n ffafrio ag Eisteddfodau eraill y 10 mlynedd ddiwethaf.

Meddai’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, wrth gyflwyno adroddiad mewn cyfarfod o gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth heddiw:

“Diolch yn fawr i bawb yn yr ardal Sir Ddinbych a weithiodd yn ddiflino i wneud Eisteddfod eleni yn llwyddiant. Mae trigolion lleol nid yn unig wedi cefnogi’r ŵyl ei hun, ond hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i’r prosiect cymunedol dros gyfnod o ddwy flynedd.

“Maen nhw wedi trefnu a mynychu dros 360 o weithgareddau codi arian ac ymwybyddiaeth yn eu cymunedau eu hunain, gan gyrraedd 111 % o darged y gronfa leol .

“Mae’r cyfarfod heddiw’n gyfle i ddiolch i bobl Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yn ffurfiol, yn ogystal â diolch i Gyngor Sir Ddinbych, yn aelodau etholedig a staff, am eu holl gefnogaeth a chymorth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae hefyd yn gyfle i ni edrych yn ôl ac i werthuso wythnos lwyddiannus yn Nyffryn Clwyd, wrth i ni gyhoeddi ein hadroddiad ein hunain ar y prosiect cymunedol ac wythnos yr Eisteddfod ei hun.”

Fe fydd ardroddiad llawn yr Eisteddfod ar gael ar eu gwefan yn hwyrach heddiw – www.eisteddfod.org.uk