Mae ymchwilwyr i dân mewn Canolfan Arddio yng Nghasnewydd nos Fercher, wedi canfod mai drwy ddamwain y dechreuodd y tân.

Bu’n rhaid i bobl adael eu cartrefi cyfagos a chafodd ffyrdd eu cau wrth i 46 o ddiffoddwyr tân frwydro’r fflamau yng Nghanolfan Arddio Blooms yn Llaneirwg, Caerdydd am 10:30 nos Fercher. Cafodd yr adeilad cyfan ei ddifrodi.

Dywedodd Rheolwr y Grŵp, Brian Thompson fod y gwasanaethau brys wedi bod yn goruchwylio’r safle drwy gydol y nos:

“Fe wnaeth y criw waith gwych i atal y tân rhag lledu i dai a busnesau gerllaw,” meddai.